Bydd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd ger Aberteifi yn cael ei hatgyfodi ym mis Awst eleni.
Cynhaliwyd Gŵyl Crug Mawr yn wreiddiol yn Nhir Oernant, ger Aberteifi rhyw ddegawd yn ôl.
Yn wir, roedd yr ŵyl ar restr fer categori ‘Digwyddiad Byw Gorau’ Gwobrau’r Selar 2014.
Bu sawl blwyddyn o saib ers hynny, ond mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn cael ei atgyfodi ym mis Awst eleni.
Dyddiad y yr ŵyl fydd nos Wener 23 a nos Sadwrn 24 Awst gydag addewid o gerddoriaeth, gwersylla, bwyd bar, gweithgareddau i blant a mwy.