Mae holl gatalog label Crai, sef is-label Sain o 1988 i 2006, bellach ar gael yn ddigidol. Sefydlwyd Crai gan Sain yn 1988 er mwyn rhoi cartref i gerddoriaeth mwy amgen gan fandiau ifanc yn bennaf.
Ers yr hydref mae Sain wedi bod yn rhyddhau ôl-gatalog y label yn ddigidol am y tro cyntaf ac maent eisoes wedi rhoi teitlau Crai 1- 40 ar y prif lwyfannau digidol. Bellach mae recordiau Crai 41 – 105 wedi ymuno â nhw.
Rhyddhawyd y cynnyrch diweddaraf i’w ail-ryddhau, yn wreiddiol, rhwng 1994 a 2006. Yn eu plith mae EP’s ac albyms gan rai o fandiau a cherddorion amlycaf y cyfnod, rhai fel Catatonia, Meic Stevens, Mike Peters, Bryn Fôn ac hefyd nifer o artistiaid newydd a chyffrous a oedd yn prysur gwneud enw iddynt eu hunain, megis Big Leaves, Anweledig, Topper, Gwacamoli, Gogz, Maharishi a Mim Twm Llai.
Rhyddhawyd hefyd sawl casgliad aml-gyfrannog difyr – yn eu plith y record deyrnged ‘I’r Brawd Hwdini’, gyda sawl artist yn canu eu fersiynau eu hunain o ganeuon y cerddor o Solfa, Meic Stevens; prosiect ‘Hen Wlad Fy Mamau’, casgliadau ‘Disgo Dawn’ a ‘Y Dderwen Bop’ a’r casgliad er budd heddwch yn Irac, ‘Clyw Leisiau’r Plant’.