Bydd y cyflwynydd radio Huw Stephens yn cyhoeddi llyfr newydd am recordiau o Gymru ym mis Mai eleni.
‘Wales : 100 Records’ ydy enw’r gyfrol newydd fydd yn cael ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r gyfrol yn trafod 100 o recordiau o Gymru mewn wedi eu dewis o bob rhan o’r wlad, mewn sawl genre ac yn y ddwy iaith.
Bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi ar 25 Mai ac mae modd rhag-archebu nawr.