Leigh Alexandra yn rhyddhau sengl ‘Hafan i’m Hiraeth’

Mae Leigh Alexandra wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Llun, 18 Mawrth. 

‘Hafan i’m Hiraeth’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist a ddaw’n wreiddiol o Bontarddulais. 

Daw’r sengl union fis ar ôl iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed, a dros y chwe’ mlynedd diwethaf, mae Leigh wedi bod ar daith bersonol a diddorol, ac mae ei sengl newydd yn nodi cyfnod newydd iddi fel artist.

Ers iddi ddychwelwyd i Gymru yn 2018, ar ôl cyfnod o fyw a gweithio dramor yn y Swistir, Gwlad Belg a’r Dwyrain Canol, mae Leigh wedi bod yn ceisio ail ddarganfod ei hangerdd at gerddoriaeth. 

Ddechreuodd y daith honno wrth iddi fynd yn ôl i’r Brifysgol yn 2019 fel myfyriwr aeddfed i astudio ‘Llais’ ac yna ‘Theatr Berfformio’. Flwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd Leigh gyfansoddi am y tro cyntaf a heddiw, gwelwn ffrwyth ei llafur, ‘Hafan i’m Hiraeth’. 

Ysgrifennodd Leigh eiriau’r gân ym mis Hydref y llynedd, ddyddiau yn unig ar ôl rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Gofyn Wyf’. Daeth y geiriau ati ar ôl ymweld â bedd ei hen-hen-dad-cu, Thomas Thomas, sydd wedi ei gladdu yn Hen Gapel yr Hendy. 

Wrth dreulio amser yn y fynwent, cafodd ei hysbrydoli gan y geiriau sydd ar ei garreg fedd: ‘Mi Ymdrechais Ymdrech Deg, Mi Gedwais y Ffydd, Mi Orffennais Fy Ngyrfa’.

“Fe wnaeth hynny f’atgoffa nad oes angen mynd yn bellach na’r tir lle ges i fy ngeni a magu i ddod o hyd i atebion rai o’r cwestiynau dwi wedi gofyn i’n hunan am flynyddoedd – “Pwy ydw i, a beth yw fy angerdd?” eglura Leigh.  

Cafodd y geiriau barddonol eu hysbrydoli gan hanes lliwgar ei chyndeidiau, cerddoriaeth, Cymru a’i balchder o fod yn Gymraes. Cynhyrchwyd y trac gan Dai Griff ar ôl recordio gyda Don the Prod, ac mae Leigh yn gobeithio y daw cyfle i gydweithio gyda’r ddau gynhyrchydd eto’n fuan.