Lleuwen i deithio capeli Cymru

Mae Lleuwen wedi cyhoeddi manylion taith arbennig y bydd yn ei chynnal rhwng Chwefror a Mai eleni, gan berfformio mewn llwyth o gapeli Cymreig dan y teitl ‘Emynau Coll y Werin’.

Mae’r rhestr o ddyddiadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ganddi’n cynnwys 25 o gapeli ledled y wlad gan ddechrau ar 13 Chwefror yng Nghapel Cendy, Abernant.

Bydd y mwyafrif o’r gigs yn ystod mis Chwefror ac Ebrill, gydag ambell un i gloi ar ddechrau mis Mai – yr olaf o’r rhain yng Nghapel Bethania, Y Tymbl ar 3 Mai. 

Rhestr lawn y gigs: