Lowri Evans yn cynnig blas o EP nesaf

Mae’r gantores brofiadol o Sir Benfro, Lowri Evans, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sy’n damaid i aros pryd nes ei EP newydd.

‘Un Reid ar ôl ar y Rodeo’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar label Recordiau Shimi.

Mae’r sengl yn flas cyntaf o EP nesaf Lowri Evans fydd yn dilyn yn fuan ar 12 Ebrill.  

Mae’r gân yn son am y merched cryf sy’n dylanwadu ar ein bywydau bob dydd; ac yn yr achos hwn, mam Lowri yw’r ffocws, wrth iddi gwestiynu sut mae perthynas rhwng mam a merch yn esblygu ac yn newid dros y blynyddoedd.

Yn wreiddiol o Drefdraeth, Sir Benfro, mae Lowri yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd cerddoriaeth Cymru fel artist dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio ers amser maith. 

Mae wedi derbyn cefnogaeth gan raglenni BBC 6 Music, Bob Harris ar BBC Radio 2, Radio Cymru/Wales, yn ogystal â pherfformio mewn llefydd arbennig gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cambridge Folk, Sesiwn Fawr Dolgellau, King Tut’s yng Nglasgow a hefyd draw yn yr America.

Yn debyg i lawer o ganeuon Lowri, Lee Mason sydd eto ar  y gitâr ar y sengl hon. 

Mae ‘Un Reid ar ôl ar y Rodeo’ wedi ei chyfansoddi mewn steil Americana, genre sy’n agos iawn at galon Lowri wedi iddi deithio Nashville rhai blynyddoedd yn ôl yn chwarae cyfres o gyngherddau. 

‘Beth am y gwir?’ ydy enw’r EP fydd allan fis Ebrill a bydd Lowri’n hyrwyddo’r record gyda thaith o amgylch Cymru. Bydd y daith yn agor gyda gig yn Nhy Tawe, Abertawe ar ddyddiad rhyddhau’r record.