Mae Lŵp, sef platfform cerddoriaeth gyfoes S4C, wedi ffurfio partneriaeth gyda mudiad Cymru Greadigol, Horizons/Gorwelion (BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru) a Chlwb Ifor Bach, ar gyfer cynnal ail ddigwyddiad Showcase Cymru yng ngŵyl gerddoriaeth The Great Escape yn Brighton.
Mae The Great Escape wedi dod yn ŵyl bwysig yn y calendr digwyddiadau cerddorol. Mae Showcase Cymru yn hyrwyddo artistiaid newydd o Gymru ac yn amlygu’r cyfoeth o dalent sy’n parhau i ddod allan o’r sin gerddoriaeth Gymraeg.
Bydd The Great Escape yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod ar 16 ac 17 Mai yn One Church, Brighton, a diolch i’r prosiect yma bydd saith o artistiaid o Gymru ar yr arlwy gan gynnwys Aleighcia Scott, Mellt a Pys Melyn.
“Ni’n edrych ‘mlaen i fod yn rhan o Showcase Cymru eleni” meddai Mellt.
“Mae’n gyfle i ni fel band i gwrdd a phobl o’r diwydiant cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, a rhannu ein cerddoriaeth i gynulleidfa newydd.”
“Rydym yn falch o fod yn rhan o Showcase Cymru eleni ar ran S4C/Lŵp” meddai Adrian Jones, Pennaeth y Tîm Cynhyrchu yn Orchard Media.
“Yn Orchard, rydym ni’n gefnogwyr brwd o gerddoriaeth Gymraeg, ac yn arbennig o falch o gefnogi ac adlewyrchu’r sîn boed hynny ar lwyfan, ar sgrîn, neu tu ôl i’r camera. Mae hefyd yn gyfle gwych i barhau â’n perthynas gref gyda Chlwb Ifor Bach a BBC Horizons/Gorwelion i’r dyfodol.”
Mae gŵyl The Great Escape yn ddigwyddiad mawr yn y diwydiant cerddoriaeth ar gyfer cerddoriaeth newydd a thalent sy’n dod i’r amlwg, gan arddangos tua 500 o artistiaid o bob cwr o’r byd ar draws dros 30 o leoliadau hygyrch yn Brighton. Mae artistiaid megis Adele, Slaves, a Wolf Alice wedi chwarae yn yr ŵyl.
Yn ogystal â rhoi golwg gyntaf i’r rhai sy’n hoffi cerddoriaeth ac eisiau gweld artistiaid cyn iddynt fynd ymlaen i gyrraedd y brif ffrwd neu gwyliau mwy, mae The Great Escape hefyd yn cynnwys digwyddiadau i’r diwydiant cerddoriaeth, gigs cyfrinachol a chydweithrediadau gwahanol.