Magi yn ôl gyda ‘Cerrynt’

Mae Magi yn ôl gyda’i sengl gyntaf ers 2021 – ‘Cerrynt’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor talentog . 

“Mi wnes i ryddhau ambell sengl rhai blynyddoedd yn ôl (‘Golau’ a ‘Blaguro’ yn 2019) gyda ‘Tyfu’ (2021) fel y diweddaraf o’r rheini ar label Ski-whiff” eglura Magi.  

“Rwyf bellach wedi recordio un gwbl newydd o’r enw ‘Cerrynt’, ac mi fyddaf yn ei ryddhau yn annibynnol ar Ebrill 26.”

Gyda pheth amser wedi pasio ers rhyddhau ei sengl ddiwethaf, mae Magi’n falch i fod yn ôl gyda chynnyrch newydd. 

“Mae saib o 3 mlynedd wedi bod ers i mi ryddhau cerddoriaeth felly rwy’n gyffrous cael dychwelyd i recordio, gan fynd i gyfeiriad mymryn gwahanol hefo’r sain” ychwanega Magi.  

“Soniai ‘Cerrynt’ am sut all fy meddyliau gael eu colli mewn ‘cerrynt cryf’, sef y straen a’r pwysau sydd arnom fel pobl yn ddyddiol. Mae’r ‘cerrynt’ yn achosi corwynt o ansicrwydd sydd yn thema drwy gydol y trac.”

Recordiwyd ‘Cerrynt’ yn fyw yn stiwdio Sain gyda Elis Derby (Gitar), Malan Fôn (Allweddellau a Lleisiau Cefndir), Aled Emyr (Gitar Fâs), Siôn Land (Drymiau), ac Ifan Emlyn (Cynhyrchu a Mastro). 

Mae’r trac ar gael ar y llwyfannau digidol arferol ers 26 Ebrill a bydd ail sengl, ‘Angori’, yn cael ei ryddhau yn y dyfodol agos.