Mali Hâf ydy enillydd gwobr flynyddol sy’n cael ei rhoi gan y band Llwybr Llaethog.
Datgelwyd y newyddion yn y dull traddodiadol bellach ar gyfryngau cymdeithasol Llwybr Llaethog ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth.
Ers bron i ddegawd bellach mae John a Kevs, aelodau’r grŵp dub / electroneg / rap, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain.
Enillwyr y wobr llynedd oedd y ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, ac mae’r enillwyr blaenorol cynnwys Hap a Damwain (2022), Adwai`th (2020), Serol Serol(2019), Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Mae Mali Hâf yn artist pop amgen sydd wedi creu cryn argraff dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Rhyddhaodd ei EP ‘Jig-So’ ar label Recordiau Côsh ym mis Hydref 2023.