Manylion Croeso Abertawe

Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyhoeddi manylion ŵyl maent yn ei drefnu ar y cyd â Cynghor Abertawe dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

‘Croeso’ ydy enw’r digwyddiad sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgarwch gan gynnwys bwyd a diod, arddangosfeydd coginio, gweithdai, celf a chrefft, gweithgareddau i’r plant a cherddoriaeth fyw.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 29 Chwefror a 3 Mawrth yng Nghanol Abertawe ac mae’r artistiaid cerddorol yn cynnwys Gwilym, Sage Todz, Brigyn, Morgan Elwy, Angel Hotel, Mali Hâf, Eädyth, Cwtsh, Alis Glyn a llawer mwy.