Mattoidz nôl gyda chynnyrch cyntaf ers degawd 

Mae’r band roc o Dde Ceredigion a Gogledd Penfro, Mattoidz, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 5 Ionawr. 

Enw’r trac newydd ganddynt ydy ‘Blodeuo’ a dyma’r cynnyrch newydd cyntaf gan y band ers rhyddhau ei halbwm diwethaf, ‘Tri’, ddeng mlynedd yn ôl. 

Perfformiodd y band ar lwyfan am y tro cyntaf ers saith mlynedd nôl ym Mai 2023, a hynny yng Ngwyl Fel ‘na Mai yng Nghrymych. Fe wnaethon nhw hefyd ddatgelu’n ddiweddar eu bod wedi dychwelyd i stiwdio Fflach i recordio, ac mae’r sengl newydd allan ar label Recordiau Fflach. 

Dathliad o ddatblygiad teulu yw thema’r gân ‘Blodeuo’, gyda’r geiriau’n ymdrin â thaith teulu dros y blynyddoedd – yn gwreiddio, blodeuo a thyfu.

Recordiwyd y gân dan ofal y cynhyrchydd Reuben Wilsdon-Amos gyda chymorth Lee Mason. Dyma’r stiwdio lle recordiodd Mattoidz eu halbwm cyntaf ugain mlynedd yn ôl, ac roedd y band yn falch iawn o ddychwelyd i’w gwreiddiau i recordio’r trac yno, yn enwedig wedi colled drist tri o sylfaenwyr Fflach – Wyn Jones, Richard Jones a Kevin Davies – dros y blynyddoedd diweddar. 

Dyma nhw’n perfformio’r trac ar Noson Lawen yn ddiweddar: