Meinir Gwilym yn rhyddhau ‘Tân’ fel sengl

Mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau un o draciau ei halbwm diweddaraf fel sengl ers dydd Gwener diwethaf, 9 Chwefror. 

‘Tân’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Sain. 

Yn dilyn rhyddhau ei halbwm diweddaraf, ‘Caneuon Tyn yr Hendy’, dyma ryddhau un o ganeuon yr albwm fel sengl, gan nodi Ddydd Miwsig Cymru wrth wneud hynny. 

Mae ‘Tân’ yn ganlyniad noson rhy hwyr yn y Felinheli a rhyw chwiw gafodd Gwyn ‘Ficar’ a Meinir i ysgrifennu cân. Mae hi’n dwyn i gof mai ’dim ond megin ydi’r fagddu i gymell y wawr’.

Ac yn ôl y gantores, mae unrhyw arian fydd yn cael ei wneud o’r sengl yn mynd tuag at achos teilwng yn Y Felinheli.

“Mi fydda i a Gwyn yn cyfrannu unrhyw arian breindaliadau am y gân am y flwyddyn i ddod i Menter Felinheli,” meddai Meinir. 

“Menter gymunedol sydd â chymdeithas a chymuned yn sail iddi. Maen nhw ar hyn o bryd yn gweithio i geisio prynu Marina y Felinheli i’r pentref.”

Mae fideo i gyd-fynd efo’r sengl hefyd wedi’i gyhoeddi. 

Gigs Meinir Gwilym

15/02/24 – Wynnstay, Machynlleth

16/02/24 – Neuadd Ogwen, Bethesda

17/02/24 – Neuadd Cemaes

23/02/24 – Theatr Fach, Llangefni

01/03/24 (pnawn / afternoon) – Tŷ Pawb, Wrecsam

01/03/24 (nos / evening) – Yr Eryrod, Llanuwchllyn

08/03/24 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd / Cardiff