Melda Lois yn cofio ‘Tofino’

Mae Melda Lois wedi rhyddhau ei hail sengl, ‘Tofino’,  ar label recordiau I KA CHING. 

Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan yr artist newydd o ardal Y Bala, gan ddilyn ei sengl gyntaf, 

‘Bonne Nuit Ma Chérie’, a ryddhawyd fis Rhagfyr ac a ddewiswyd fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru’n ddiweddar.

“Ma’ Tofino yn dre fach arfordirol ar Ynys Vancouver yn Canada”, eglura Lois. 

“Mae pobol yn mynd yno i syrffio, cerdded a phrofi’r bywyd gwyllt. Nes i ddechre fy nhrafyls yn Canada nôl yn 2016 – wrth sbïo nôl, o’n i’n teimlo ar goll yn fy hun braidd, ac mi oedd trafeilio ben fy hun yn ryw fath o ddihangfa a’n ffor’ braf o drio dod nôl at fy nghoed a teimlo bach o ryddid eto. Ma’r gân yn trio crynhoi’r teimlad yne.”

Magwyd Lois yng Nghwm Croes ger Llanuwchllyn, ac mae wedi creu dipyn o enw iddi ei hun wedi iddi gigio’n gyson dros yr haf. 

Daeth i amlygrwydd gyntaf wedi i ddwy o’i chaneuon gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru, 2021. Roedd yn un o artistiaid Cronfa Lansio BBC Gorwelion 2023, bu ar restr fer artist newydd Gwobrau’r Selar a daeth ymysg y pedwar olaf ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023.

Cydweithiodd Lois gyda’r cynhyrchydd Ifan Jones, yn Stiwdio Sain ar y gyfres o senglau a fydd yn cael eu rhyddhau’n fuan yn 2024.