Mae’r cerddor profiadol, Mered Morris, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Iau diwethaf, 7 Mawrth.
‘I Walia Well’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar label Recordiau Madryn.
“A ninnau newydd ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’n adeg briodol i ryddhau ‘I Walia Well’” eglura Mered.
“Ysbrydolwyd y gân gan y teimlad cadarnhaol o fod yn rhan o orymdaith ‘Yes Cymru’ ym Mangor ar brynhawn braf o fis Medi’r llynedd.”
Yn perfformio gyda Mered ar y trac mae Gwyn ‘Maffia’ Jones (drymiau), Aled Wyn Hughes (bas) a Mike Brown ar y sacs.
Mae Mered yn ganwr-gyfansoddwr profiadol sydd yn y gorffennol wedi chwarae gyda Rhiannon Tomos a’r Band, Meic Stevens, Bwchadanas a Sobin a’r Smaeliaid, ond sydd ers sawl blwyddyn bellach yn rhyddhau ei gerddoriaeth yn unigol.