Mae’r band ifanc o Ddyffryn Clwyd, TewTewTennau, wedi rhyddhau eu hail sengl o’r mis wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf.
‘Sefwch Fyny’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener 17 Mai, ac mae’n dilyn ‘Diogi’ a ryddhawd wythnos yn gynharach.
Byddant yn rhyddhau trydedd sengl ddydd Gwener nesaf, 24 Mai hefyd sef ‘Ond Paid!’ cyn rhyddhau eu halbwm llawn ar ddiwedd y mis.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar 31 Mai, gyda gig lansio yn Nhafarn y Llindir, Henllan, ar y noson honno gyda chefnogaeth gan Dafydd Hedd a Jos Wilks a’r band.
Mae TewTewTennau wedi llwyddo i greu dipyn o argraff dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar lwyfan y maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan fis Awst diwethaf.
Roedden nhw hefyd wedi eu cynnwys ar restr ‘Artistiaid ifainc i’w gwylio 2024’ Y Selar a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.