Mae Morgan Elwy wedi datgelu trefniadau lansiad ei ail albwm nesaf.
‘Dub yn y Pub’ ydy enw albwm newydd y cerddor o Lansannan, ac yn briodol iawn fe fydd yn cynnal lansiad swyddogol y record yn un o dafarndai enwocaf Cymru.
Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen fydd lleoliad y lansiad ar 30 Mawrth, sef diwrnod rhyddhau swyddogol y record ar 30 Mawrth.
Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir gyntaf Morgan, ‘Teimlo’r Awen’, a ryddhawyd yn 2021.
Mae modd rhag-archebu’r record hir, fydd allan ar ffurf feinyl, ar safle Bandcamp Morgan nawr.