Mynadd yn dod at eu coed

Mae’r band ifanc o ardal y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl newydd ar  label Recordiau I KA CHING. 

‘At Dy Goed’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan ers dydd Gwener 10 Mai, a dyma ydy eu trydedd sengl hyd yma.

Daeth y syniad ar gyfer y geiriau i Gruffudd (piano) wrth ddarllen nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn, ‘Salem’, wrth iddo uniaethu â geiriau’r prif gymeriad, fod llawer o bobl ifanc yn dod at eu coed wrth fynd i’r chweched dosbarth neu’i debyg.

“Os rywbeth, mae hi’n gân reit bersonol, bron yn llythyr i fi’n hun yn y gorffennol,” meddai Gruff. 

“Dwi’n dal i atgoffa’n hun o’r geiriau pan fo angen nawr ac yn y man. Ond yn ei hanfod, cân o obaith ydy hi, ac mi allith hi ffitio i unrhyw gyd-destun.”

“Fel band, ‘den ni wedi’i ffeindio fo’n fwy cynhyrchiol i ’sgwennu caneuon yn unigol, ond wrth uno i ymarfer, mae’r canlyniad yn wahanol iawn i’r demo bras ar fy ngliniadur. Ma’ mewnbwn y band, a Carwyn ac Ifan (cynhyrchwyr) hefyd, wedi bod yn hollol allweddol, ac wrth gwrs, mae Elain (prif leisydd) wedi cymryd yr alaw fras a’i chwyldroi hi er gwell eto. 

“Mi wnes i gyflwyno hon i’r band mewn ymarfer sydyn yn y capel bach yn Nhrawsfynydd cyn gig ddiwedd Mai llynedd, ond fuodd Cadog (drymiau) yn fy niawlio i am sbel hir wedyn wrth i ni gyd drïo meistroli’r tripledi yn y middle eight! Ond buan y tyfodd hi’n eitha’ ffefryn dros haf ‘23, ac mi ddoth y gân at ei choed (!) yn hwyr neu’n hwyrach.”

Mynadd ydy Elain Rhys (prif leisydd), Math Thomas (gitâr), Gruffudd ab Owain (piano), Nel Thomas (bas) a Cadog Edwards (drymiau). 

Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i ddwy sengl flaenorol y band sef ‘Llwybrau’, a ryddhawyd nôl ym mis Tachwedd 2023 a  ‘Dylanwad’ a ryddhawyd fis Chwefror eleni.  

Carwyn Williams ac Ifan Emlyn Jones, sydd wedi cynhyrchu’r dair sengl yn Stiwdio Sain, Llandwrog.