NoGood Boyo yn cyhoeddi manylion sengl a thaith

Mae’r band ‘gwerin gyda gwahaniaeth’, NoGood Boyo, yn eu gweld yn symud i gyfeiriad trawiadol wrth iddynt blethu dylanwadau nu-metal a rave i greu ailgymysgiad ffyrnig o hen alaw Gymreig. 

Fersiwn newydd o ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’ ydy eu sengl ddiweddaraf, ‘Ffarwel’, fydd allan ar label Recordiau Udishido ar 8 Chwefror. 

Mae eu fersiwn newydd o’r gân gyfarwydd yn cyfuno’r geiriau hynafol gyda churiadau pwerus ac offerynnau llinynnau arbennig, ac mae ei heffaith yn gwbl wefreiddiol. 

“Mae’r geiriau’n disgrifio stori o annibyniaeth ifanc drwy adael rhywle sy’n agos at eich calon yn y gobaith am rywbeth gwell” eglura’r band.  

“Mae’r naratif o annibyniaeth a’r angen am ddyfodol mwy disglair i’w gweld heddiw, ym mharodrwydd ac agwedd penderfynol y rheiny sy’n cychwyn ar deithiau peryglus, yn aml yn wynebu heriau ac ansicrwydd mawr ar hyd y ffordd. 

“Mae eu straeon yn ein hatgoffa o’r awydd arbennig hynny i gael bywyd gwell, sy’n parhau i lunio ein byd o’n cwmpas ni heddiw.” 

Bydd NoGood Boyo yn chwarae yng Nghaer, Birmingham, Glasgow, Guildford a Bryste dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â gig arbennig yng Nghaerdydd gyda HMS Morris ar 10 Chwefror

Bydd ‘Ffarwel’ allan ar y llwyfannau digidol  arferol ddydd Iau 8 Chwefror 2024 drwy Recordiau UDISHIDO. 

Dyddiadau taith fer NoGood Boyo: 

26 Ionawr – The Victoria, Birmingham

27 Ionawr – The Hug and Pint, Glasgow

28 Ionawr – St Mary’s Creative Space, Caer

8 Chwefror – The Star Inn, Guilford

10 Chwefror – The Globe, Caerdydd (gyda HMS Morris)