Parti gwrando i lansio albwm Cowbois

Bydd Cowbois Rhos Botwnnog yn rhyddhau eu halbwm newydd ddydd Gwener yma, 1 Mawrth. 

Mynd â’r Tŷ am Dro ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y band tri brawd o Ben-Llŷn.

Dyma chweched record hir y band, ac mae’n dilyn y record hir ‘Yn Fyw! Galeri Caernarfon’ a ryddhawyd y llynedd – casgliad o ganeuon byw o set y band mewn gig yn y Galeri ym mis Mawrth 2020.

Cafodd yr albwm newydd ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r brodyr eu hunain yn cynhyrchu. 

Rydym eisoes wedi cael tameidiau i aros pryd nes yr albwm ar ffurf y senglau ‘Clawdd Eithin’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf llynedd, ac yna ‘Adenydd’ a laniodd y mis canlynol. Bu iddynt hefyd ollwng y trac ‘Trosol’ ddechrau mis Chwefror. 

Byddant yn mynd ar daith ledled Cymru i ddathlu, ac mae’r dyddiadau i’w gweld isod. 

Bydd y band yn cynnal parti gwrando arbennig ar gyfer yr albwm ar eu safle Bandcamp nos Fercher yma, 28 Chwefror, gyda gwahoddiad i unrhyw un ymuno. 

Dyddiadau Taith Cowbois Rhos Botwnnog

8 Mawrth – Galeri, Caernarfon

9 Mawrth – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth

15 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd 

22 Mawrth – Theatr Derek Williams, Y Bala

23 Mawrth – The Bunkhouse, Abertawe 

12 Ebrill – Neuadd y Dref, Llanfairfechan

19 Ebrill – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych 

20 Ebrill – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Dyma ‘Trosol’: