Mae’r prosiect pop positif, Popeth, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Llun 8 Ebrill.
Am am yr eildro, mae prosiect cyd-weithredol Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn, wedi partneru gyda Leusa Rhys sy’n gyfarwydd fel un o leisiau unigryw y band Serol Serol.
‘Dal y Ganwyll’ ydy’r sengl ddiweddaraf gan y ddeuawd, sef fersiwn newydd o’r gân wreiddiol gan Sobin a’r Smaeliaid.
Dyma’r ail waith i Leusa gydweithio gyda Popeth ar drac ar ôl iddynt ryddhau’r sengl ‘Acrobat’ ar y cyd fis Tachwedd llynedd.