Record feinyl Selar2 ar y ffordd

Mae cylchgrawn  Y Selar yn paratoi i ryddhau ein record feinyl aml-gyfrannog newydd, gan arddangos yr amrywiaeth wych o gerddoriaeth sy’n dod allan o’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd. 

Dyma’r ail record o’r fath gan Y Selar, gan ddilyn ar sodlau ‘Selar1’ a ryddhawyd yn 2023 a bydd allan ym mis Gorffennaf. 

Nifer cyfyngedig o gopïau o’r record sy’n cael eu gwasgu, a bydd rhain ar gael yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar yn y lle cyntaf. 

Caneuon y casgliad

Mae’r record, ‘Selar2’, yn cynnwys deg o draciau gan ddeg o artistiaid gwahanol – bron pob un ohonynt wedi eu rhyddhau’n ddigidol yn unig cyn hyn.

Yr unig eithriad ydy’r trac ‘Taro Deuddeg’ gan Angharad Rhiannon a ryddhawyd ar ei halbwm CD ‘Seren’, sef enillydd gwobr ‘Record Hir Orau 2022’ Gwobrau’r Selar – er mai fersiwn newydd, unigryw o’r trac, fydd yn ymddangos ar yr albwm.

Ymysg y caneuon eraill ar y casgliad ceir traciau gan rai o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin ar hyn o bryd fel Los Blancos, Kim Hon a Geraint Rhys, ynghyd â thraciau gan artistiaid newydd fel Melda Lois, Ffos Goch a Ble?.

Nifer cyfyngedig o’r recordiau sydd ar gael, a bydd y rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu hanfon yn syth i aelodau premiwm Clwb Selar, sef clwb cefnogwyr y cylchgrawn. Bydd nifer fach o gopïau’n weddill, a rhain yn cael eu defnyddio fel gwobrau cystadlaethau, ac ambell un i’w prynu wyneb yn wyneb (manylion i ddilyn yn fuan). 

‘Cynnig llwyfan teilwng’

Dyma fydd yr ail o gyfres blynyddol o recordiau feinyl gan Y Selar, ac mae’n barhad i brosiect sydd wedi bod yn freuddwyd gan y cylchgrawn ers peth amser. 

“Rydan ni’n hoff iawn o’r cyfrwng feinyl yma yn Y Selar, ac yn ein barn ni, feinyl ydy’r fformat gorau ar gyfer gwrando ar gerddoriaeth” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. 

“Roedd recordiau aml-gyfrannog yn bethau ddigon cyffredin yn y gorffennol, ac mae hanes hir o gasgliadau gwych yn y Gymraeg. Mae wedi bod yn gyffredin iawn i gylchgronau cerddoriaeth mawr ei cyhoeddi hefyd gan ymddangos ar eu cloriau, er mai ar ffurf CD fu hynny’n bennaf.

“Rydan ni wedi bod yn awyddus i ddechrau cyhoeddi recordiau gyda chaneuon gan artistiaid amrywiol ers tro byd, ac ers i fwy a mwy o gerddoriaeth gael ei ryddhau’n ddigidol yn unig dwi wedi teimlo’n reit drist am y ffaith bod llawer o ganeuon gwych yn colli’r cyfle i ymddangos ar fformat feinyl. Dyma ymdrech i gynnig llwyfan teilwng i rai o’r caneuon yma bob blwyddyn felly, ac mae’r diolch i’r rhai sy’n cefnogi gwaith Y Selar trwy ymaelodi â Clwb Selar am ein galluogi i wneud hynny.

Ar gyfer yr ail record o’r casgliad, mae Y Selar wedi penderfynu troi at yr artist fu’n gyfrifol am greu’r clawr ar gyfer enillydd gwobr ‘Gwaith Celf Gorau’ Gwobrau’r Selar 2023. James Reid oedd yn gyfrifol am greu’r gwaith celf trawiadol ar gyfer y sengl ‘Fel Hyn Fel Arfer’ gan Y Cledrau a ryddhawyd i nodi 10 mlynedd ers ffurfio’r grŵp yn 2023. Ef oedd hefyd yn gyfrifol am waith celf albwm y band, ‘Cashews Blasus’, sef enillydd yr un wobr yn 2022. 

Bydd Selar2 allan ym mis Gorffennaf ac yn cael ei ddosbarthu i’r aelodau Clwb Selar perthnasol bryd hynny, gyda nifer cyfyngedig iawn o gopïau dros ben fydd ar gael mewn digwyddiadau byw.

Ymaelodwch â Chlwb Selar i sicrhau eich copi!

Rhestr traciau albwm ‘Selar2’

Ochr 1

  1. Kareem Abdul-Jabbar – Los Blancos 
  2. Noson Arall yn y Ffair – Ystyr gyda Mr Phormula 
  3. Braf Oedd Byw – Sachasom 
  4. Ymdrech – Geraint Rhys 
  5. Rekt – Kim Hon 

 

Ochr 2

  1. Rhywbeth O’i Le – Ffos Goch 
  2. Bonne Nuit Ma Cherie – Melda Lois 
  3. Acrobat – Popeth gyda Leusa Rhys 
  4. Rhedeg – Ble? 
  5. Taro Deuddeg – Angharad Rhiannon