Record ‘ochrau B’ SFA ar gyfer Diwrnod Siopau Recordiau

Mae’r Super Furry Animals wedi rhyddhau casgliad newydd o ganeuon ‘ochr B’ o gyfnod eu halbwm cyntaf.

Rhyddhawyd yr albwm ‘Fuzzy Logic’ ym 1996 mewn cyfnod ble’r oedd rhyddhau senglau ar CD dal yn ei anterth.

Roedd cyfres o senglau gan y Furrys i gyd-fynd ag eu halbwm cyntaf, oedd wrth gwrs yn cynnwys traciau ochrau B wnaeth ddim ymddangos ar yr albwm ei hun.  

Wrth gyhoeddi manylion y casgliad dywedodd ffryntman y band, Gruff Rhys, bod y rhan fwyaf o’r caneuon wedi eu recordio “dan wyliadwraeth y cynhyrchydd Gorwel Owen yn [stiwdio] Ofn a Rockfield – gyda ‘Guacamole’ yn Big Noise Caerdydd (sydd ddim yno bellach) gyda Greg Haver – ‘Dim Bendith’ ac ‘Arnofio’ yn teimlo’n well na cynnyrch yr albwm ei hun ar y pryd ac wedi eu recordio yn Ofn ar ôl gorffen Fuzzy Logic.”

Un o ganeuon enwocaf y casgliad ydy ‘The Man Don’t Give a Fuck’ a ryddhawyd fel sengl yn y pendraw, fel yr eglura Gruff…

“‘The Man Don’t Give a Fuck’ wedi ei recordio fel ochr B yn wreiddiol ond fe’i stopiwyd gan gyfreithwyr Steely Dan am gwpwl o fisoedd felly bu’n sengl ynddo’i hun ddiwedd 1996.”

Rhyddhawyd yr albwm ar ffurf record feinyl yn arbennig ar gyfer Diwrnod Siopau Recordiau Annibynnol ar ddydd Sadwrn 20 Ebrill. 

Dyma restr y traciau:

  • The Man Don’t Give a Fuck
  • Dim Bendith
  • Arnofio 
  • Glô in the Dark
  • Don’t be a Fool, Billy!
  • Guacamole
  • Death by Melody
  • Lazy Life (of no fixed identity)
  • Waiting to Happen
  • (Nid) Hon yw’r Gân sy’n Mynd i Achub yr Iaith