Record ‘trac sain’ Rhys Aneurin

Mae’r cerddor ac artist gweledol, Rhys Aneurin, wedi rhyddhau albwm newydd amgen dan yr enw ‘City Circle’. 

Mae Rhys yn gyfarwydd fel aelod o fand Yr Ods, ond mae hefyd wedi dal y sylw gyda’i waith celf. Daw yn wreiddiol o Fôn, ond mae bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd. 

Gan blethu recordiadau bob dydd o’r ddinas gyda chyfansoddiadau offerynnol electronig, mae’r trac sain City Circle yn cwestiynu’r delfrydau o hunaniaeth ac arwahanrwydd sy’n diffinio lle yn draddodiadol. 

Mae’r albwm hefyd yn ymdrin â’r teimladau o berthyn a dieithrwch a ddaw yn sgil pensaernïaeth sy’n newid yn barhaus, a’n ddiffinio perthynas dinasyddion â’r man lle maent yn byw. 

Fel teitlau i’r caneuon unigol, mae Rhys Aneurin yn defnyddio cyfesurynnau o leoliadau, sydd wedi llywio neu ysbrydoli ei gyfansoddiadau.

“Trac sain a gosodiad celf ydi City Circle – dau ddarn o waith sy’n gorgyffardd trwy archwilio’r un themau o berthyn a hunaniaeth, a’r estroni y daw o ddatblygiadau pensaerniol yng nghanol Caerdydd” meddai Rhys Aneurin wrth Y Selar.

“I bwy mae’r datblygiadau yma’n cael eu adeiladu? Be sy’n creu dinas, neu unrhyw le mewn gwirionedd – pobl neu ein hamglychoedd?”

Roedd yr albwm yn cael ei gyflwyno fel rhan o osodiad sain a cherfluniau yn SHIFT, Caerdydd ar 16 Chwefror.

Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar label PWLL, sef label annibynnol wedi’i leoli yn Grangetown, Nghaerdydd.