Rhyddhau albwm cyntaf Eden ers chwarter canrif

Mae Eden wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers chwarter canrif.

‘Heddiw’ ydy enw’r record hir newydd gan yr eiconau pop Cymraeg, ac sydd allan ar label Recordiau Côsh. Dyma eu halbwm cyflawn cyntaf ers 1999.

Daw’r albwm yn dynn ar sodlau pedair sengl ers dechrau’r flwyddyn sy’n creu cynnwrf ar wasanaethau radio a ffrydio ar hyn o bryd – ‘Caredig’, ‘Siwgr’, ‘Gwrando’ a’r sengl ddwbl ‘Fi / Waw’ sydd allan ers dydd Sadwrn 11 Mai. 

Llwyddodd y fideo ar gyfer y sengl gyntaf, ‘Caredig’, i ddenu 40,000 o wylwyr yn ei 24 awr gyntaf, gan brofi poblogrwydd parhaus EDEN. 

Cynhyrchwyd y caneuon gan Mark Elliot a Rich James Roberts, oedd hefyd yn cymysgu a mastro’r albwm. Ysgrifennwyd ‘Heddiw’ dros gyfnod o flwyddyn gan ysgrifenwyr amrywiol yn cynnwys Caryl Parry Jones, Mark Elliot, Rich James Roberts, Ifan Siôn Davies a sylfaenydd label Recordiau Côsh, Yws Gwynedd.

Gweledigaeth glir

Wedi meithrin cysylltiad unigryw ac agos gyda’u cynulleidfa ar hyd y blynyddoedd, roedd gan aelodau’r band Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon weledigaeth glir a chryf iawn ar gyfer sain, teimlad a neges yr albwm hwn. 

Maent wrth eu bodd o fod wedi gweithio gyda’r criw talentog yma i wireddu eu breuddwyd o greu casgliad o ganeuon sy’n crisialu eu hangerdd a’u cred yng ngrym cysylltiad, caredigrwydd, cynwysoldeb a dathlu’r unigolyn.

Gyda’r ethos hwn yn byrlymu yn eneidiau creadigol EDEN, maen nhw hefyd wedi lansio ‘PABO’ – menter sy’n anelu at ddysgu, deall ac unwaith eto – dathlu pob agwedd ar fod yn berson. Yn ogystal â hyn, bydd y band hefyd yn cloi rhai o wyliau mwyaf Cymru yn 2024, gan gynnwys Tafwyl ar 14 Gorffennaf.

“’Da ni methu aros i rannu’r albwm efo’r byd o’r diwedd” meddai Non. 

“Mae gan bob cân neges sy’n bwysig i ni, neu’n dod o brofiadau personol ac rydyn ni’n mawr obeithio y bydd gwrandawyr yn gallu uniaethu hefo nhw.” 

Dywed Rachael bod yr albwm newydd yn adlewyrchu cyfeillgarwch yr aelodau a’r hyn sydd wedi digwydd yn eu bywydau.

“’Da ni ’di bod yn ffrindiau gorau ers ein dyddiau ysgol ac nid yn unig wedi parhau i berfformio gyda’n gilydd ond hefyd wedi rhannu cymaint o’n bywydau personol gyda’n gilydd, y dathliadau a’r cyfnodau mwy heriol. Dwi’n teimlo y gallwch chi wir glywed hynny yn y caneuon.” 

“‘Heddiw’ ydi’r teitl perffaith i’r albwm gan mai dyma lle rydyn ni fel band ac fel ffrindiau erbyn heddiw” meddai Emma. 

“Yn falch o fod yn hŷn a doethach… gobeithio! Ond yn sicr yn barod i ddathlu a pharhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei garu trwy ein cerddoriaeth a’r platfform PABO…sef gwneud i bobl deimlo’n sbesial!” 

25 mlynedd ar ôl rhyddhau eu halbwm diwethaf, mae EDEN, un o fandiau mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, yn ôl a bydd yr albwm ar y llwyfannau ffrydio arferol ar 24 Mai. 

Gigs Eden

01.06 – Gŵyl Triban

29.06 – Gŵyl y Gwylliaid

06.07 – Gŵyl Canol Dre Caerfyrddin

14.07 – Tafwyl

21.07 – Sesiwn Fawr Dolgellau