Rhyddhau albwm cyntaf M-Digidol

Mae’r prosiect electroneg newydd M-Digidol wedi rhyddhau albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 5 Ebrill. 

Swrealaeth ydy enw’r record hir sydd allan ar label HOSC. 

Mae’r albwm 13 trac yn tywys y gwrandäwr ar daith unigryw a chyffrous, gyda danteithion electroneg sy’n ymestyn o glitch, electronica a breakbeat.  

Prosiect diweddaraf y cerddor Rhun Gwilym ydy M-Digidol ac mae wedi bod yn creu cerddoriaeth ers cyn ei arddegau. 

Daeth i’r amlwg gyntaf gyda’i fand ysgol Y Morgrug – grŵp a ffurfiodd gyda’i ffrindiau ysgol gynradd ac a ddaeth yn ffefrynnau gyda’r cyflwynydd radio Huw Stephens.  Nawr, dros 10 mlynedd ers iddo ffurfio Y Morgrug mae bellach wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ac yn rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw M-Digidol.

Cafodd 4 sengl oddi ar yr albwm eu rhyddhau’n wythnosol wrth arwain at ddyddiad rhyddhau’r record hir gyda ‘Gweld’, ‘Disco Digidol’, ‘Defo Dim Deadmau5’ a ‘Red Storm’ yn rhoi blas sydyn o’r cyfanwaith cyfan. 

Mae’r albwm bellach ar gael i’w ffrydio ar yr holl lwyfannau digidol arferol.