Mae’r band roc o Gaerdydd, SYBS, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Mai.
‘Olew Nadroedd’ ydy enw’r albwm sydd allan ar label Recordiau Libertino, ac sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘capsiwl amser teimladwy o’r cyffro a’r pryderon â ddaw ynghyd wrth dyfu fyny.’
Yn ôl prif ganwr a gitarydd SYBS, Osian Llŷr, mae’r albwm yn cyfleu’r ffaith bod y byd o’n cwmpas yn gyffrous ac yn lliwgar, ond mae ymroi yn llawn i’r profiadau newydd hynny yn frawychus ac ar adegau, yn anghyfforddus.
“Yr hyn roedden ni moen cyflawni gyda ‘Olew Nadroedd’ oedd cymryd snapshot o ble oedden ni fel band pan gafodd llawer o’r caneuon eu cyfansoddi; ble roeddem ni’n arbrofi llawer ac yn ceisio ffeindio ein ‘sŵn’, a ble o ni’n agored i fyd o ddylanwadau cerddorol gwahanol” eglura Osain.
“Cefais fy ysbrydoli gan albyms fel ‘I Can Hear the Heart Beating as One’ gan Yo La Tengo a ‘Fantasma’ gan Cornelius, sy’n teimlo fel ryw collages mawr o synau a genres gwahanol, ond sy’n dal i swnio fel eu bod yn perthyn i’r un lle.
“Roedd e’n adeg gyffrous iawn yn ein bywydau cyn covid, lle’r oedd y rhan fwyaf ohonom wedi symud i ddinasoedd gwahanol ar gyfer y brifysgol a’n cael yr holl brofiadau newydd yma, ond yn dal i ddod yn ôl i gigio yng Nghaerdydd yn aml iawn. Dwi’n hoffi meddwl ein bo’ ni wedi llwyddo i ddal ychydig o’r anhrefn a’r egni o’r cyfnod hwnnw ar yr albwm.”
Yn ôl Osian, mae’r negeseuon a geir yng ngheiriau’r caneuon ar yr albwm yn gwrthgyferbynnu gyda’r sain sydd i’w glywed.
“Mae llawer o’r geiriau ar yr albwm yn fyfyriol, yn bryderus a’n ansicr, ond mae’r gerddoriaeth ar y cyfan yn lliwgar, swnllyd, a’n ‘llawn’; a dwi’n teimlo bod hynny yn cyfleu’r ddeuoliaeth o ble’r oedden ni pan ddechreuon ni ddod â’r albwm at ei gilydd yn 2018.”
Dyma’r trac ‘Paid Gofyn Pam’ o’r albwm: