Ar ôl creu argraff gyda chyfres o senglau, mae Y Dail wedi rhyddhau albwm cyntaf dan yr enw Teigr.
Prosiect cerddorol Huw Griffiths o Bontypridd yw Y Dail a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi rhyddhau llond llaw o draciau gan dderbyn adolygiadau ffafriol gan ystod eang o wefannau cerddorol, cylchgronau a rhaglenni radio.
Rhyddhawyd y diweddaraf o’r senglau hyn, sef y sengl ddwbl ‘My Baby’s In The FBI’ a ‘Pedwar Weithiau Pump’ ddiwedd mis Mawrth fel tamaid olaf i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf y prosiect.
Mae Teigr yn gasgliad 13 trac sydd allan ar label Gwaith Cymunedol.
Disgrifia Huw yr albwm fel “casgliad o ganeuon fe sgwennais i rhwng pan o’n i’n 16 ac 19 oed yn fy stafell wely gyda gitâr flamenco a chyfrifiadur”.
Mae dylanwadau’r albwm yn cynnwys Joe Meek, Television, Gorky’s Zygotic Mynci, Cate le Bon, Brian Wilson yn ogystal â’r awduron Carson McCullers, Euros Bowen a William Burroughs.
Recordiwyd yr albwm yn Grangetown, Caerdydd, gyda’r cynhyrchydd nodedig, Kris Jenkins (Cate le Bon, Gruff Rhys, H. Hawkline), tra bod Rhodri Brooks o Melin Melyn yn chwarae pedal steel ar y trac ‘Tarth y Bore’.
Ymysg y rhai sydd wedi cefnogi Y Dail yn ddiweddar mae Marc Riley o BBC Radio 6 Music, sydd wedi galw’r traciau yn “pop perffaith”, Radio X, Gruff Rhys — a disgrifir y band yn “anhygoel” — yn ogystal ag Adam Walton a wnaeth ei sengl ddiweddaraf, ‘Silly Boy’, yn drac yr wythnos ar ei raglen BBC Introducing ar Radio Wales.
Mae Teigr allan ar y llwyfannau digidol arferol.
Gigs Y Dail
06 Ebrill – No. 1 Harbourside, Bryste
31 Mai – The Moon, Caerdydd
03 Awst – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol
05 Awst – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
23 Awst – Tŷ Pawb, Wrecsam