Rhyddhau albwm Gruff Rhys – ‘Sadness Sets Me Free’

Mae albwm diweddaraf Gruff Rhys allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Ionawr.

Sadness Sets Me Free’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y cerddor fu’n aelod o Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals cyn mynd ati i berfformio a recordio fel artist unigol.

Mae’r albwm allan ar label Rough Trade ac eisoes wedi denu tipyn o ymateb gan y cyfryngau Prydeinig a rhyngwladol, gan gynnwys adolygiad ffafriol yn The Observer dros y penwythnos.

Bydd Gruff yn teithio a pherfformio mewn lleoliadau ledled Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon yn ystod mis Chwefror a dechrau Mawrth i hyrwyddo’r albwm newydd, cyn mentro dros for yr Iwerydd i deithio UDA yn ddiweddarach ym mis Mawrth. Mae manylion llawn y gigs ar ei wefan