Rhyddhau albwm newydd Cwtsh

Mae’r band Cwtsh wedi rhyddhau eu hail albwm ers dydd Gwener, 8 Mawrth. 

‘Llinell Amser’ ydy enw’r record hir newydd gan y band ac mae’n glanio tair blynedd ar ôl eu halbwm cyntaf llwyddiannus, ‘Gyda’n Gilydd’, a ryddhawyd yn 2021.

Daeth Cwtsh i fodolaeth yn dilyn sgwrs rhwng Siôn Lewis ag Alys Llywelyn-Hughes ar ddiwedd gig MR, yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanrwst yn 2019. 

Daw Alys o gefndir pop electroneg cyn hyn, gan berfformio dan yr enw Lunar Glass, felly roedd cyd-weithio gyda Siôn yn mynd â hi i gyfeiriad newydd. Mae Siôn yn gerddor profiadol a fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Y Gwefrau, Y Profiad ac Edrych am Jiwlia yn y gorffennol.

Llwyddodd albwm cyntaf Cwtsh i gyrraedd rhestr fer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 ac ar ddiwedd mis Ionawr y flwyddyn hon, rhyddhawyd yr albwm ar y gwasanaethau ffrydio, am y tro cyntaf. 

Erbyn hyn, mae’r ail albwm, ‘Llinell Amser’ yn barod i’w ryddhau, ac mae’n gasgliad sydd â theimlad eitha’ gwahanol i’r un cyntaf.

“Mae’r albwm hon yn dipyn fwy egnïol, ble roedd ‘Gyda’n Gilydd’, ein halbwm cyntaf gyda thraciau mwy addfwyn” meddai Alys. 

“Er, mae’ ’na ddigon o ganeuon tyner ar hon hefyd, sy’n creu fwy o drawstoriad i’r albwm. Dwi’n credu bod yna elfen fwy personol iddi, sy’n dod gyda hyder o gyd-weithio dros amser.”

Mae’r baledi hynod ddwys dal i fod yn amlwg fel ‘Yr Athro’ sef trac lansio’r albwm. A daw hefyd syniadau mwy heriol y tro hyn sy’n amlwg yng nghaneuon fel ‘Hawl’, ‘Dagrau Fel y Glaw’ a ‘Rhed’. 

Dyma ‘Yr Athro’: