Wrth i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn agosau, mae label Recordiau Maldwyn wedi rhyddhau trac newydd arbennig i ddathlu ymweliad yr ŵyl a’r ardal.
‘Ein Maldwyn Ni’ ydy enw’r trac newydd gan Penri Roberts a Linda Gittins, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 3 Mai.
Sengl yw hon gan ddau o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, i ddathlu dyfodiad Eisteddfod yr Urdd i Meifod ym mis Mai eleni.
Ynghyd â’r diweddar, Derec Williams, bu i’r tri ffurfio Cwmni Theatr Maldwyn er mwyn rhoi llwyfan i dalentau cefn gwlad Maldwyn a’r cyffiniau drwy gyfrwng sioeau cerdd gwreiddiol Cymraeg. Eleni, bydd ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod yn perfformio tameidiau o’r sioeau rheiny, ac yn cloi’r cwbl fydd y gân newydd hon, ‘Ein Maldwyn Ni’.
Yn canu ar y sengl, mae dwy ferch leol i’r Eisteddfod sydd wedi perfformio droeon gyda Chwmni Theatr Maldwyn sef Sara Meredydd ac Angharad Mai Lewis.
Recordiwyd a chynhyrchwyd y cyfan gan fachgen lleol adnabyddus arall, sef Rhydian Meilir.