Rhyddhau EP Lowri Evans

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei EP newydd ers dydd Gwener diwethaf, 12 Ebrill. 

‘Beth am y gwir?’ ydy enw’r EP newydd gan y cerddor profiadol, ac fe ddaw yn dilyn rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd yn gynharach eleni. Y ddiweddaraf o’r rheiny oedd ‘Paid gadel fi ar ôl’ a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 5 Ebrill.  

“Mae’r gân yn sôn amdano’r dewisiadau sydd gennym, cymeryd cyfleodd mewn bywyd ac i beidio â bod ofn profiadau newydd” meddai Lowri wrth drafod y sengl honno. 

Yn wreiddiol o Drefdraeth, Sir Benfro, mae Lowri yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd miwsig Cymru fel artist dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio ers amser maith.

Mae wedi derbyn cefnogaeth gan raglenni BBC 6 Music, Bob Harris ar BBC Radio 2, Radio Cymru/Wales, yn ogystal â pherfformio mewn llefydd arbennig gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cambridge Folk, Sesiwn Fawr Dolgellau, King Tut’s yng Nglasgow a hefyd draw yn yr America.

Yn ôl yr arfer, mae Lowri wedi gweithio gyda Lee Mason sydd ar y gitâr ar yr EP sydd allan drwy Recordiau Shimi. 

Mae Lowri’n yn hyrwyddo’r record gyda thaith o amgylch Cymru ar hyn o bryd.

Taith hyrwyddo Lowri Evans

18/04/24 Cegin diod, Llandeilo

20/04/24 Clwb Rygbi Castell Nedd / Neath

25/04/24 Bar y Selar, Aberteifi / Cardigan

26/04/24 Y Llew Gwyn, Talybont

27/04/24 Tŷ Siamas, Dolgellau

17/05/24 Y Ship, Trefin

18/05/24 Gŵyl Fach y Fro, Barri / Barry

14/06/24 Clwb y Bont, Pontypridd

Dyma’r fideo swyddogol ar gyfer y trac ‘Un Reid ar ôl ar y Rodeo’