Mae Gŵyl Gerddoriaeth FOCUS Wales yn Wrecsam wedi cyhoeddi 100 o artistiaid pellach fydd yn perfformio yno ym mis Mai eleni.
Datgelwyd manylion cychwynnol y digwyddiad eleni nôl ar ddechrau mis Rhagfyr, gan gynnwys 70 o’r enwau fyddai’n perfformio yno ar benwythnos 9-11 Mai.
Nawr maent wedi ychwanegu 100 o enwau eraill i’r rhestr gan gynnwys artistiaid o 20 o wahanol wledydd.
Mae’r enwau diweddaraf yn cynnwys artistiaid cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymraeg sef y band metal o Fangor, CELAVI, Gai Toms a’r Band. Mae tocynnau’r ŵyl ar werth nawr ar wefan FOCUS Wales.