Rhyddhau sengl ddiweddara Huw Aye Rebals

Ar ôl cyhoeddi eu EP cyntaf yn ddiweddar, mae’r band Huw Aye Rebals wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Halen y Ddaear’. 

Band o Ynys Môn ydy Huw Aye Rebals sy’n cael eu harwain gan eu ffryntman, Huw Al. 

Aelodau eraill y band ydy Hayden Morgan ar y bass, Alex Roberts ar y drums, Tom Greenalgh ar y gitâr flaen a llais cefndir, a Barry Flash ar y gitâr rythm ac allweddellau.  

Mae’r band yn chwarae cerddoriaeth roc gwlad a gwerin indie, ac wedi bod yn gigio’n rheolaidd dros yr haf gan brysur ehangu eu cyrhaeddiad. 

Bu iddynt ryddhau eu EP, ‘Boni a Claid’, ar ddiwedd yr haf a nawr maent yn ôl gyda rhagor o gynnyrch newydd ar ffurf y sengl ddiweddaraf. 

Mae’r sengl newydd allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.