Mae’r band ifanc Tewtewtennau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 15 Mawrth.
‘Rhedeg Fyny’r Mynydd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Bryn Rock.
Llwyddodd y band o Uwch Aled i greu dipyn o argraff mewn digwyddiadau byw yn ystod 2023, gan gynnwys yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar lwyfan y maes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedden nhw hefyd wedi eu cynnwys ar restr ‘Artistiaid ifainc i’w gwylio 2024’ Y Selar a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.