Mae’r band gwerin poblogaidd, Bwncath, wedi rhyddhau eu sengl newydd ac mae addewid o albwm i ddilyn.
‘Y Gwerinwr’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band sydd allan ar label Recordiau Sain, a dyma’r cynnyrch gwreiddiol cyntaf iddynt rhyddhau ar y label ers eu hail albwm, ‘Bwncath II’, a gyhoeddwyd yn ôl ar gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020.
Mae’n faled gyfoes sy’n adrodd hanes person sy’n sylweddoli’r potensial i gynnig cymorth i eraill, gyda’r sylweddoliad hwnnw wedyn yn newid ei olwg ar y byd. Cyfansoddwyd y gân gan Elidyr Glyn, prif leisydd Bwncath, ac Elidyr hefyd sy’n gyfrifol am y gwaith celf.
Ceir gwestai arbennig ar y gân, sef neb llai na Gwilym Bowen Rhys ar y pibau.
Ers eu hail albwm, mae Bwncath wedi rhyddhau tair sengl – fersiwn o gân Vanta, ‘Pen y Byd’, yn 2021; ‘Aderyn Bach’ ym mis Gorffennaf 2023 a ‘Gyrru Ni ’Mlaen’, gyda Meinir Gwilym, ym Mehefin 2023.
Roedd eu halbwm diwethaf yn hynod o boblogaidd ac o fewn pythefnos i ryddhau ‘Bwncath II’, cafwyd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify.
Derbyniodd y band gydnabyddiaeth tu hwnt i Gymru wrth i’r albwm gyrraedd rhif 27 yn siartiau ‘Official Folk Albums Charts UK’ gan aros yn y 40 uchaf am bron i flwyddyn gyfan, ymysg enwau fel The Staves a Laura Marling.
Bellach, mae catalog cerddoriaeth Bwncath wedi derbyn cyfanswm o dros 6.1 miliwn o ffrydiau ar Spotify. Yn dilyn llwyddiant yr ail albwm, daeth y band i’r brig yng nghategorïau ‘Record Hir Orau’ a ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar 2020, gan ennill hefyd y ‘Grŵp Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023.
Mae’r band eisoes yng nghanol paratoadau i recordio eu trydydd albwm yn Stiwdio Sain, gyda Robin Llwyd yn cynhyrchu, a’r bwriad o’i ryddhau yn 2025.
Mae nifer o gigs ar y gweill gan y band dros yr wythnosau nesaf.
Gigs Bwncath Ebrill/Mai 2024
26/04 – Llindir Inn, Henllan
03/05 – Bull Llanerchymedd
04/05 – Miri Mai Pwllheli
05/05 – Ocsiwn Rhuthun
18/05 – Tregaroc, Tregaron
24/05 – Holland Arms, Gaerwen
25/05 – Llanffest, Pengwern Llanffestiniog
31/05 – Gŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd