Rhys Gwynfor yn ôl gyda’i sengl newydd

Mae’r cyfansoddwr a’r perfformiwr, Rhys Gwynfor, yn dychwelyd i’r sin gerddorol gyda’i sengl newydd, ‘Lwcus’. 

Rhyddhawyd y sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh ddydd Gwener diwethaf, 7 Mehefin. 

Ar ôl cymryd cyfnod o seibiant i fagu ei blant ifanc, mae Rhys yn ôl i ddangos ei ddoniau unigryw a’i allu i greu cerddoriaeth sy’n cyfuno’r cyfoes â’r hyn sy’n nodedig o’r gorffennol.

Hon yw’r sengl gyntaf gan Rhys ers iddo ryddhau ‘Adar y Nos’ ar y cyd â’i bartner Lisa Angharad ym mis Tachwedd 2022. 

Mae rhai yn adnabod Rhys fel canwr ‘Jessop a’r Sgweiri’ a enillodd Cân i Gymru yn 2013 gyda ‘Mynd i Gorwen hefo Alys’, tra bod eraill yn ei adnabod fel cyflwynydd achlysurol ar S4C. Ond, bydd llawer o ffyddloniaid y sin gerddoriaeth Gymraeg yn ei adnabod fel artist cerddorol cadarn, sydd wedi bod yn chwa o awyr iach dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mae Rhys wedi bod yn gweithio gyda’i ffrindiau Osian Huw Williams ac Ifan Emlyn Jones (Candelas) i gynhyrchu ei gerddoriaeth, ac mae ‘Lwcus’ yn estyniad o’r traddodiad o greu cynyrchiadau grymus sy’n gweddu’r straeon twymgalon mae Rhys yn ei ’sgwennu ar ffurf caneuon. 

Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Lwcus’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Ifan Jones Evans, oedd yn cael ei chyflwyno gan Hana Medi, ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf. 

Dyma ‘Lwcus’: