Mae manylion gŵyl gerddoriaeth ‘Roc y Ddol’ a gynhelir ym Methesda wedi’i gyhoeddi.
Clwb Rygbi Bethesda fydd lleoliad y digwyddiad ar 22 Mehefin eleni ac mae llu o artistiaid cerddorol yn perfformio.
Ymysg yr enwau mae Celt, Tara Bandito, Dylan Morris a’r Band, Yws Gwynedd, Candelas a Dafydd Goch a’r Dihirod. Mae tocynnau Roc y Ddol 2024 ar werth nawr.