Mae Mared Williams wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, gyda fideo ar gyfer y trac hefyd yn ymddangos arlein.
‘Pe Bawn i’n Rhydd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 1 Mawrth, a dyma’r blas cyntaf o EP nesaf Mared, Better Late Than Never’, fydd allan ar 3 Mai.
Mae’r trac newydd yn cael ei ddisgrifio fel un calonogol fydd yn siŵr o wneud i chi symud.
Fe’i cynhyrchwyd gan Nate Williams. Mae’r fideo ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi gan wasanaeth Lŵp, ac yng nghysyniad fideo’r gân, mae’r fersiwn ifanc o Mared yn estyn am focs degannau ac yn breuddwydio am bosibiliadau disglair y dyfodol.
Mae Mared yn gwneud dangosiad fel nifer wahanol o gymeriadau gwahanol o’r bocs hwn. Owain Jones sydd wedi cyfarwyddo’r fideo.