Sengl a fideo newydd Gruff Rhys – ‘Bad Friend’

Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei sengl newydd, fel tamaid i aros pryd nes rhyddhau ei albwm ar ddiwedd mis Ionawr.

‘Bad Friend’ ydy enw’r trac sydd wedi’i ollwng gan Gruff, gyda fideo arbennig yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

Mae’r fideo yn dangos y cerddor yn cerdded mewn lleoliadau amrywiol trwy Gymru, ond yn bennaf ar hyd lôn gyfarwydd yr A470.

Mark James sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r fideo. Bydd ‘Bad Friend’ ar albwm newydd Gruff, ‘Sadness Sets Mr Free’ sydd allan ar 26 Ionawr. 

Yn y cyfamser, mae Gruff hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gigs y bydd yn perfformio ynddyn nhw yn yr UDA fis Mawrth eleni. 

Dyma’i fideo newydd: