Sengl ddwbl prosiect electro Keyala

Mae’r prosiect electroneg, Keyala, wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ar label Recordiau HOSC. 

‘Chdi / Ynof Fi’ ydy enw’r traciau newydd, a dyma’r cynnyrch diweddaraf i ymddangos trwy’r label newydd sy’n canolbwyntio ar ryddhau cerddoriaeth electroneg.

Keyala ydy prosiect electroneg yr aml-offerynnwr a’r cynhyrchydd hunanddysgedig, Osian Land, sy’n gyfarwydd hefyd fel drymiwr y band Dienw. 

Mae Keyala yn ymgeisio i greu campweithiau electroneg newydd a chyffrous sy’n sefyll allan. Recordiwyd y ddau drac yma yn wreiddiol fel sesiwn ar gyfer BBC Radio Cymru, ac mae ‘Ynof Fi’ yn cynnwys llais hudolus yr artist newydd, Betsan Lees.

Mae Recordiau HOSC, label sy’n ymdrechu i arddangos y gerddoriaeth electroneg orau o Gymru, ac mae’r sengl ddwbl gan Keyala, yn cael ei hychwanegu at gynnyrch blaenorol sydd wedi glanio trwy’r label gan yr artistiaid electro M-Digidol a Tokimololo. 

Bydd Keyala yn rhyddhau mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol agos felly cadwch lygad ar ei gyfrifon cymdeithasol lle bydd yn rhannu newyddion am ei sioeau byw dros yr haf hefyd. 

Dyma ‘Ynof Fi’: