Sengl ddwbl yn flas o albwm Y Dail

Mae’r prosiect cerddorol o Bontypridd, Y Dail, wedi ryddhau sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 22 Mawrth. 

‘My Baby’s In The FBI’ a ‘Pedwar Weithiau Pump’ ydy enwau’r traciau newydd gan Y Dail sy’n cynnig blas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar albwm cyntaf y prosiect sydd allan yn fuan. 

‘Teigr’ ydy enw record hir gyntaf Y Dail a bydd allan ar 5 Ebrill. 

Prosiect cerddorol Huw Griffiths o Bontypridd yw Y Dail a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi rhyddhau llond llaw o senglau gan dderbyn adolygiadau ffafriol ar ystod eang o wefannau cerddorol. Ymysg y rheiny sydd wedi’i gefnogi yn ddiweddar mae Marc Riley, BBC Radio 6 Music, a Gruff Rhys, a ddisgrifiodd y band fel “anhygoel”. 

“Mae ‘Pedwar Weithiau Pump’ yn gân swrrealaidd am atgofion a breuddwydion, wedi’i dylanwadu gan Television a grwpiau pop y 70au fel Badfinger” eglura Huw. 

“Mae ‘My Baby’s In The FBI’ wedi’i dylanwadu’n rhannol gan ganeuon pop rhyfedd y 60au cynnar a gynhyrchwyd gan Joe Meek.”

Mae’r sengl ddwbl allan ar label Community Work/Gwaith Cymunedol. 

Dyma fideo ‘Pedwar Weithiau Pump’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Geraint Francis: