Sengl elusennol Bryn Fôn i Gaza

Mae Bryn Fôn wedi rhyddhau ei fersiwn ei hun o gân enwog mewn ymateb i’r brwydro yn Gaza ar hyn o bryd. 

Cân gan Leonard Cohen yn wreiddiol ydy ‘Hallelujah’ – Iddew o Ganada, ac mae hynny’n arwyddocaol o ystyried y brwydro rhwng Israel a’r grwp Hamas, sydd wedi bod yn rheoli Gaza.

Rhyddhawyd y fersiwn wreiddiol o  ‘Hallelujah’ ym 1984 ac mewn nifer o artistiaid wedi perfformio, recordio a rhyddhau ef fersiwn eu hunain o’r trac enwog. Un o’r rheiny oedd y band Brigyn, a ryddhaodd eu fersiwn Cymraeg o’r trac yn 2005 gyda geiriau wedi eu hysgrifennu gan Tony Llywelyn. Mae Bryn Fôn wedi troi at y geiriau hynny eto wrth ryddhau ei fersiwn elusennol newydd, ‘Haleliwia i Gaza’. 

“Penderfynais recordio’r gân fel ymateb i’r hyn yr oeddwn yn ei weld ar y newyddion bob nos, sef y gyflafan yn Gaza” meddai Bryn Fôn 

“Rydym fel artistiaid a thechnegwyr yn galw am gadoediad parhaol a diwedd ar ladd pobol ddiniwed. Mae pawb wedi rhoi o’i hamser am ddim, ac fe fydd unrhyw elw yn mynd i dalu am offer meddygol.”

Y cerddorion sydd wedi cyfrannu at y trac ydy: Bryn Fôn (Prif lais), Osian Land (Drymiau), Mered Morris (Gitars), John Williams (Allweddellau), Neil (Maffia) Williams (Bas), Glesni Owen (Llais Cefndir), Medwen Pari (Llais Cefndir), Nia Williams (Llais Cefndir).