Tair blynedd ers rhyddhau ei sengl ddiwethaf, mae Griff Lynch wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Kombucha’ ydy enw’r trac newydd ac mae’r sengl ar gael i’w ffrydio ar y llwyfannau digidol arferol trwy label Lwcus T, sef y label sy’n cael ei redeg gan Griff ei hun.
Mae’r sengl, sy’n gawl o felodïau llachar a threfniannau llinynnol tynn, a’r newyddion da pellach ydy bod albwm unigol cyntaf y cerddor i ddilyn cyn diwedd y flwyddyn.
“Ma’ wedi cymryd oes imi gael casgliad o ganeuon at ei gilydd, yn bennaf achos ’mod i’n recordio bob dim fy hun, ond mae’n teimlo’n amser da i ryddhau cyfanwaith” eglura Griff.
Bydd y fideo sy’n cyd-fynd â’r trac yn cael ei gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C ddydd Gwener yma, 7 Mehefin, a bydd Griff yn chwarae cyfres o gigs dros y misoedd nesaf gan gynnwys Tafwyl a gŵyl Sŵn.