Sengl i aros pryd gan Cowbois 

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener yma, 9 Chwefror. 

Datgelodd y band eisoes eu bod nhw’n bwriadu rhyddhau eu halbwm nesaf, ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ ar 1 Mawrth eleni. 

‘Trosol’ ydy enw’r sengl newydd sy’n flas o’r hyn sydd i ddod ar ei halbwm diweddaraf, ac sy’n cael ei rhyddhau ar Ddydd Miwsig Cymru 2024.

Nid dyma’r blas cyntaf o’r albwm a gafwyd cofiwch, gan mai ‘Trosol’ yw’r drydedd cân i gael ei rhyddhau o’r record, gan ddilyn ‘Clawdd Eithin’ ac ‘Adenydd’, a ryddhawyd yn haf 2023.

‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ ydy record hir wreiddiol gyntaf y band tri  brawd ers 2016 pan ryddhawyd ‘IV’, ar label Sbrigyn Ymborth yn 2016. Er hynny, bu iddynt ryddhau albwm o ganeuon byw ar 2 Rhagfyr 2023 – caneuon a recordiwyd yn eu gig yn y Galeri, Caernarfon nôl ym mis Mawrth 2020, ychydig cyn y pandemig. 

Cyhoeddodd y band y byddant cynnal taith i hyrwyddo eu halbwm newydd ym mis Mawrth ac Ebrill eleni gan ymweld â chanolfannau ledled Cymru. 

Gigs Taith Cowbois Rhos Botwnnog

8 Mawrth – Galeri, Caernarfon

9 Mawrth – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth

15 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

22 Mawrth – Theatr Derek Williams, Y Bala

23 Mawrth – The Bunkhouse, Abertawe

12 Ebrill – Neuadd y Dref, Llanfairfechan

19 Ebrill – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

20 Ebrill – Neuadd Dwyfor, Pwllheli