Sengl Lowri Evans a Ryland Teifi

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei thrydedd sengl ers dydd Gwener diwethaf, 17 Mai. 

‘Allai Byth a Aros’ ydy enw’r trac newydd ganddi sy’n cynnwys yr amryddawn, Ryland Teifi. 

Mae’r sengl yn dilyn yr EP, ‘Beth am y Gwir?’ a gafodd ei ryddhau, ar ffurf CD yn unig, ar 12 Ebrill. Yma, mae’r ddeuawd yn sôn am berthynas sydd wedi rhedeg ei chwrs, gyda’r ddau yn gofyn, “pwy sydd ar fai?”  

Yn wreiddiol o Drefdraeth, Sir Benfro, mae Lowri wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio ers amser maith. Mae wedi derbyn cefnogaeth gan raglenni ar BBC 6 Music, Bob Harris ar BBC Radio 2, Radio Cymru/Wales, yn ogystal â pherfformio mewn llefydd arbennig gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cambridge Folk, Sesiwn Fawr Dolgellau, King Tut’s yng Nglasgow a hefyd draw yn yr America.

Yn debyg i lawer o ganeuon Lowri Evans, Lee Mason sydd ar y gitâr ar y sengl hon hefyd. Bydd Lowri yn hyrwyddo’r record gyda thaith o amgylch Cymru.