Sengl Lowri Evans – ‘Paid Gadael Fi Ar Ôl’

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 5 Ebrill.

‘Paid Gadael Fi Ar Ôl’ ydy enw’r trac newydd sy’n damaid olaf i aros pryd nes rhyddhau ei EP newydd.

Bydd yr EP, ‘Beth am y Gwir?’ allan ddydd Gwener nesaf 12 Ebrill ac mae’r artist profiadol o Drefdraeth, Sir Benfro eisoes wedi rhoi blas i ni o’r hyn sydd i ddod gyda’r sengl ‘Un Reid ar ôl ar y Rodeo’ a ryddhawyd fis Chwefror.

Bydd Lowri’n cynnal taith i hyrwyddo’r EP gan ddechrau gyda gig yn Nhŷ Tawe, Abertawe ar y dyddiad rhyddhau, 12 Ebrill. Bydd hefyd yn perfformio yn Nhafarn Sinc, Rosbush y noson ganlynol.