Mae Eden wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, gan gyhoeddi hefyd y newyddion bod albwm newydd ar y ffordd ganddynt yn fuan.
‘Gwrando’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ganddynt ers dydd Gwener 12 Ebrill.
Dyma’r drydedd sengl iddynt ryddhau ar label Recordiau Côsh gan ddilyn ‘Caredig‘ a ‘Siwgr‘ yn gynharach yn y flwyddyn.
Ysgrifennwyd ‘Gwrando’ gan Caryl Parry Jones a chafodd ei gyd gynhyrchu gan Rich Roberts, Yws Gwynedd, Caryl ac Eden yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth yn ystod haf 2023.
Dyma’r tro cyntaf i bawb gydweithio i esblygu sain y grŵp tra hefyd yn cadw’n driw i’w gwreiddiau pop pur. Wrth arbrofi yn stiwdio Ferlas a chydweithio ar sawl gân arall gyda Mark Elliott (cynhyrchydd ‘Caredig’), roedd albwm cyfan o 11 cân newydd sbon wedi ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
‘Heddiw’ fydd enw’r albwm newydd gan Eden, ac er nad oes dyddiad rhyddhau wedi’i gadarnhau mae’n debyg y gallwn ddisgwyl i’r record hir lanio yn fuan.
Wythnos diwethaf hefyd cafodd Eden eu cadarnhau fel prif artist Tafwyl eleni, ac mae posib gweld fideo geiriau i gyd-fynd â ‘Gwrando’ ar eu gwefan a’u cyfrifon cymdeithasol.