Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 26 Ebril.
Llythyr gariad at y cerddor amryddawn o Siapan, Sachiko Kanenobu, yw sengl newydd Carwyn Ellis, ‘Big Sky Love (Song for Sachiko)’.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Carwyn wedi ffurfio cyfeillgarwch arbennig gyda Sachiko ac mae’r sengl hon yn dathlu’r berthynas honno.
“Rydym wedi bod yn ffrindiau ar-lein ers tro bellach, ac mae Sachiko yn ffrind hynod gefnogol – dyna mae’r geiriau’n cyfeirio ato” eglura Carwyn.
“Mae’r cytgan yn sôn am sut mae hi bob amser yn gorffen ei negeseuon ar nodyn positif; yn anfon ei chariad neu ‘Big Sky Love’.”
Mae Kanenobu yn dipyn o arwres yn Siapan – gyda’i LP cyntaf, ‘Misora’, gafodd ei gynhyrchu gan Harry Hosono yn 1972, yn cael ei ddisgrifio gan Carwyn fel “yr albwm perffaith”. Er hynny, roedd camau nesaf Kanenobu yn rhai dirgel, wedi iddi briodi a symud i California, lle mae hi’n dal i fyw hyd heddiw.
Fu Carwyn yn rhan o’i halbwm ‘Fork In The Road’ y llynedd lle mae’n cyfaddef bod “ei chaneuon a’i cherddoriaeth yn dal i fod yn wirioneddol arallfydol – does ’na neb fel Sachiko. Defnyddiodd Wim Wenders ei thrac anhygoel, ‘Aoi Sakana’, yn Perfect Days yn ddiweddar, ffilm gafodd ei enwebu ar gyfer yr Oscars. Mae’n fraint gallu ei galw hi’n ffrind.”
Mae ‘Big Sky Love (Song For Sachiko)’ allan nawr, gyda’r EP o’r un enw i ddilyn ar 10 Mai ar Bubblewrap Collective.