Mae un o grwpiau mwyaf eiconig Cymru o’r 1990au, Eden, yn ôl gyda sengl newydd ac addewid o fwy o gynnyrch ffresh i ddilyn dros y flwyddyn nesaf.
‘Caredig’ ydy eu sengl ddiweddaraf, a dyma’r cam cyntaf ar daith ddi-stop Eden sydd bellach yn ddim llai nag eicons yn y byd pop Cymraeg.
Mae eu caneuon wedi bod yn rhan o’n bywydau ni ers degawdau ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi mynd â’r hits at genhedlaeth newydd o ffans, yn ogystal a’r rhai gwreiddiol, mewn gigs byw llwyddiannus ar hyd a lled Cymru.
“’Caredig’ yw’r gân berffaith i ryddhau ar ddechre’ blwyddyn fawr i ni” meddai Eden.
“Mae’r neges mor bwysig i ni’n tair ac mae o’n gân mor hapus mae’n neud ni isio dawnsio…a da ni’n gobeithio newch chi hefyd.”
Cafodd fideo’r gân ei rhyddhau wythnos diwethaf ar gyfrif Instagram EDEN, ac mae’n dogfennu rhannau o’r broses gyfansoddi a recordio dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae hyn yn cynnwys sesiynau stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth gyda Rich Roberts, recordio côr o ffrindiau’r g’nethod yn Stiwdio’r Efail yn Y Bontfaen, gweithio efo Mark Elliott (cynhyrchydd ‘Caredig’), perfformio’n fyw dros yr haf ledled Cymru, y dyddiau bythgofiadwy (sy’ dal yn digwydd!) wrth weithio efo Caryl Parry Jones (cyfansoddwr y gân), yn ogystal ag ambell i gipolwg ar fywyd dydd i ddydd y tair fel ffrindiau gorau.
Mae’r sengl allan ar label Recordiau Côsh ac mae addewid o gynlluniau mawr pellach ar gyfer 2024.