Sengl newydd Georgia Ruth

Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau eu sengl newydd sydd flas cyntaf o albwm nesaf yr artist o Aberystwyth.

Bydd pedwerydd albwm stiwdio Georgia, ‘Cool Head’, yn cael ei ryddhau eleni, gyda’r sengl gyntaf oddi arni, ‘Driving Dreams’, allan ers dydd Gwener diwethaf 15 Mawrth.

Cafodd yr albwm ei ysgrifennu yn y cyfnod yn dilyn salwch ei gŵr, Iwan. Mae ‘Cool Head’, hen ymadrodd ei thad, yn gasgliad didwyll o ganeuon sy’n gweld ei dylynwadau yn ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au.

Wedi’i recordio yn stiwdio Sain, mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau gan Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llewelyn (Aldous Harding), a Rhodri Brooks (Melin Melyn).

Mae hefyd yn gweld llais unigryw Euros Childs (Gorky’s Zygotic Mynci) yn ymddangos ar ambell i drac yn ogystal â threfniadau llinynnol Gruff Ab Arwel, wedi’u perfformio’n gelfyddyd gan Angharad Davies, Angharad Jenkins a Patrick Rimes, gyda’r cyfan wedi’i gyd-gynhyrchu gyda Iwan Morgan.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl, ‘Driving Dreams’: